Croeso i gartref Mosäig

Rydym wedi creu amrywiaeth o ddrychau mwydion papur wedi’u personoli i blant ac anrhegion sydd wedi eu gwneud â llaw yma yng Nghymru.

Ychwanegiad perffaith i ystafell unrhyw angel fach neu ofodwr bywiog ac anrheg unigryw i ben‑blwydd neu achlysur arbennig.

I’r merched, y lliwiau pinc perffaith, a phorffor bendigedig gyda gloynnod byw, calonnau, blodau, popeth yn disgleirio ac wrth gwrs  fflwff ymhobman.

Rocedi chwim a sêr gwib i’r bechgyn.

Anrheg perffaith i unrhyw blentyn.

Bydd drychau ni ar gael ar y maes yn siop Oriel Pwlldefaid. Bob lwc i Bethan ag Eirian i’r Wythnos.